Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
31 Ionawr 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2.
(10 munud)
(20 munud)
Gofyn i Weinidog yr Economi
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau mewn perthynas â Fferm Gilestone yn dilyn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 29 Ionawr 2024?
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Alun Davies (Blaenau Gwent): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o ran y cytundeb i adfer llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon?
(5 munud)
(5 munud)
NDM8466 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii), yn cytuno y dylai trafodion Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gael eu hystyried gan Bwyllgor o’r Senedd Gyfan.
Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
(5 munud)
NDM8472 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Adolygiad cyfyngedig o weithdrefnau Biliau Cydgrynhoi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26C, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
(30 munud)
NDM8434 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG, ar ffurf corff rheoleiddio.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sefydlu corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer GIG Cymru i ddiffinio'r safonau proffesiynol a ddisgwylir gan reolwyr GIG Cymru a bod yn lle i droi ar gyfer y rhai sy'n teimlo nad yw'r safonau hynny wedi cael eu bodloni gan unrhyw reolwr unigol GIG Cymru, a byddai ganddo'r pŵer i rybuddio, cosbi neu dynnu unrhyw reolwr GIG Cymru oddi ar ei gofrestr a gynhelir;
b) diffinio beth yw rheolwr GIG Cymru a chynnal cofrestr o reolwyr GIG Cymru; ac
c) ei gwneud yn ofynnol i holl reolwyr y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r corff rheoleiddio proffesiynol.
(30 munud)
NDM8467 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi'r deisebau canlynol ynghylch cymorth ar gyfer costau gofal plant:
a) deiseb ‘P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr’ a gasglodd 10,820 o lofnodion; a
b) deiseb 'P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i'r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024' a gasglodd 407 o lofnodion.
(0 munud)
(60 munud)
NDM8458 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Y tu ôl i’r llenni: Gweithlu’r diwydiannau creadigol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2023.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2024.
(30 munud)
NDM8469 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn torri’r gyfradd rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-2025.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y gyfradd rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden er mwyn cefnogi busnesau a diogelu swyddi.
Cefnogwyr
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu’r ffaith bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, a hynny er gwaethaf y ffaith ei bod werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real nag ydoedd adeg ei gosod yn 2021:
a) yn darparu pecyn o gymorth ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £384 miliwn;
b) yn rhoi cap o 5 y cant ar y cynnydd yn sgil chwyddiant i'r lluosydd ardrethi annomestig; ac
c) yn darparu rhyddhad o ran ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y pumed flwyddyn yn olynol, gan adeiladu ar y cymorth sydd werth bron i £1 biliwn a ddarparwyd ers 2020-21.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegwch pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu ymhellach at setliad cyllid presennol Trysorlys y DU nad yw'n ystyried anghenion Cymru.
Gwelliant 3 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud oddi wrth ardrethi annomestig, cyhoeddi amserlen ar gyfer eu gwaith, a sicrhau bod map ffordd ar gyfer pontio allan o ardrethi annomestig yn cael ei ddarparu yn ogystal ag opsiynau ar gyfer system newydd.
(30 munud)
NDM8470 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y sylwadau a wnaed gan Syr John Whittingdale AS, Gweinidog Gwladol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y byddai Llywodraeth y DU yn edrych eto ar y digwyddiadau a rhestrir pe bai Senedd Cymru yn dadlau’n gryf iawn o blaid hynny.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnwys gemau rygbi’r chwe gwlad yn y categori am ddim at ddibenion darlledu.
(30 munud)
NDM8468 Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Methiant y galon – Mae arloesi yn achub bywydau
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Chwefror 2024